Rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ac felly’n ceisio darparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn ein gofal.
Rydym yn credu fod gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy’r ddod i’n grŵp a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg
Fel rhiant, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein Cylch Meithrin ni. Cymraeg yw’r iaith yn ein Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni.
Oriau agor
Sesiwn Meithrin
Diwrnod | Bore | Prynhawn |
Dydd Llun | 9.00-13.00 | |
Dydd Mawrth | 9.00-13.00 | |
Dydd Mercher | 9.00-13.00 | |
Dydd Iau | 9.00-13.00 | |
Dydd Gwener | 9.00-13.00 |
Manylion cyswllt
Arweinydd: SONIA WYN PUGH-JONES
07392 931404
cylchtalsarnau@aol.com
Cyfeiriad
NEUADD GYMUNEDOL TALSARNAU
STRYD FAWR
TALSARNAU
LL47 6TA
Math o Gylch
Cylch Meithrin
Cylch Cost
£11.50
- Gofal Sesiynol
Cyfleoedd cyflogaeth
Arweinydd Cylch Meithrin Talsarnau
Cyflog: I'w drafod
Dyddiad Cau: 03/07/2023
6 days ago
Darllen mwy