*Cofrestru wedi cau* 30 Mawrth 2023 10yb - 3.30yp Stadiwm Abertawe.com
Addas i: Ymarferwyr Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd Dydd, staff Mudiad Meithrin, athrawon ac athrawon ymgynghorol y Dysgu Sylfaen, aelodau CWLWM a chydweithwyr y sector gofal ac addysg feithrin.
Ymunwch â ni yn ein cynhadledd arbennig yn Abertawe. Dyma’r tro cyntaf yn ne Cymru i ni ddod at ein gilydd i drafod, rhwydweithio a rhannu syniadau newydd ers sawl blwyddyn!


Byddwn yn cychwyn y diwrnod gyda’n siaradwyr gwadd:
Kym Scott – Ymgynghorydd Plentyndod Cynnar
Dadbacio’r Cwricwlwm – Kym Scott
Yn ei chyflwyniad bydd Kym yn dehongli’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir; rôl yr oedolyn; a sut i wneud y gorau o’r ‘eiliadau dysgadwy’.
Ben Hine – Athro Seicoleg Gymhwysol Prifysgol Gorllewin Llundain
Archwilio Rhywedd yn y Blynyddoedd Cynnar – Yr Athro Ben Hine
Bydd Ben yn ei araith yn archwilio rhywedd (gender) yn ystod plentyndod a’r dylanwad positif a chadarnhaol mae ymarferwyr a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn gallu cynnig yn ystod y cyfnod hwn.
Wedi toriad cinio, bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn dau weithdy gwahanol o’ch dewis. Dyma’r gweithdai fydd ar gael:
Gweithdai 1 12:40yp – 13:25yp;
1a – ‘Y Wariar Bach’ (Agored i bawb. Cymraeg) Bydd Leisa Mererid yn cyflwyno ei llyfr newydd – ‘Y Wariar Bach’. Sesiwn ymarferol fydd hon gyda Leisa yn dangos sut i gyflwyno ioga ac ymarferion anadlu i blant bach.
1b – ‘Mae gan blant hawliau!’ (Agored i bawb. Cymraeg): Gweithdy gyda Sophie Williams. Cyflwyniad rhyngweithiol i ‘Adnodd a Hyfforddiant Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar’ gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.
1c – ‘ABC o Opera’ (Agored i bawb. Dwyieithog): Sesiwn gerddorol yng nghwmni Mark Llewelyn Evans. Mae Mark yn credu’n angerddol y dylai pob plentyn fedru gwireddu ei freuddwydion, a mae’n hynny’ bosib trwy ddulliau dysgu ABC felly AMDANI BLANT CYMRU!
1ch – ‘Dadbacio’r Cwricwlwm’ (Agored i bawb. Saesneg) : Ymunwch â Kym Scott i glywed sut mae creu rhyngweithiadau effeithiol rhwng ymarferwyr a phlant a chynnig profiadau chwarae pwrpasol.
1d – ‘Disneymania’ (Agored i bawb. Saesneg): Yn y gweithdy hwn bydd yr Athro Ben Hine yn cyflwyno ei waith ymchwil ar ‘Disneymania’. Bydd Ben yn cynnig cyfleoedd i arsylwi ar rai o’r elfennau mwyaf poblogaidd o frand ‘Disney’ a sut mae’r cyfryngau hyn yn dylanwadu ar feddyliau ac ymddygiad plant bach.
1dd – ‘Gwyn Elis – Rydw i’n dda ac yn effeithiol!’ (Agored i bawb. Cymraeg): Yn y gweithdy hwn bydd Gwyn Elis o gwmni hyfforddi Portal yn ein hannog i ddathlu ein llwyddiannau yn ein lleoliadau ac yn ystyried sut i rannu ein harferion da gydag eraill.
Gweithdai 2 13:35yp – 14:20yp;
2a – ‘Y Wariar Bach’ (Agored i bawb. Cymraeg) Bydd Leisa Mererid yn cyflwyno ei llyfr newydd – ‘Y Wariar Bach’. Sesiwn ymarferol fydd hon gyda Leisa yn dangos sut i gyflwyno ioga ac ymarferion anadlu i blant bach.
2b – ‘Mae gan blant hawliau!’ (Agored i bawb. Cymraeg): Gweithdy gyda Sophie Williams. Cyflwyniad rhyngweithiol i ‘Adnodd a Hyfforddiant Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar’ gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.
2c – ‘ABC o Opera’ (Agored i bawb. Dwyieithog): Sesiwn gerddorol yng nghwmni Mark Llewelyn Evans. Mae Mark yn credu’n angerddol y dylai pob plentyn fedru gwireddu ei freuddwydion, a mae’n hynny’ bosib trwy ddulliau dysgu ABC felly AMDANI BLANT CYMRU!
2ch – ‘Kym Scott – Lleoliadau, Oedolion a Phrofiadau – Sut? Ble a Pham?’ (* Ar gyfer Athrawon Ymgynghorol a Swyddogion y Mudiad yn unig. Saesneg) : Yn y gweithdy hwn bydd Kym Scott yn archwilio rôl yr amgylchedd effeithiol; oedolion sy’n galluogi dysgu, a phrofiadau sydd angen eu cynnig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar er mwyn ennyn diddordebau plant.
2d – ‘Disneymania’ (Agored i bawb. Saesneg): Yn y gweithdy hwn bydd yr Athro Ben Hine yn cyflwyno ei waith ymchwil ar ‘Disneymania’. Bydd Ben yn cynnig cyfleoedd i arsylwi ar rai o’r elfennau mwyaf poblogaidd o frand ‘Disney’ a sut mae’r cyfryngau hyn yn dylanwadu ar feddyliau ac ymddygiad plant bach.
2dd – ‘Gwyn Elis – Rydw i’n dda ac yn effeithiol!’ (Agored i bawb. Cymraeg): Yn y gweithdy hwn bydd Gwyn Elis o gwmni hyfforddi Portal yn ein hannog i ddathlu ein llwyddiannau yn ein lleoliadau ac yn ystyried sut i rannu ein harferion da gydag eraill.
I gloi’r diwrnod, fe fydd panel o arbenigwyr yn ateb eich cwestiynau; Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin; Jonathan Cooper, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn; Averil Petley, Pennaeth Dysgu Sylfaen, Llywodraeth Cymru a Ruth Rowlands, Rheolwr Tîm Gofal Plant a Chwarae AGC.
Mae’r diwrnod cyfan am ddim! Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn Abertawe.
Dyddiad cau i gofrestru: 28 Chwefror
I gofrestru ac i ddewis dau weithdy, cliciwch isod.