Rydym yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno â'n tîm fel Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd a Chydlynydd Sefydlu a Symud (SAS) i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin yn Sir Gâr. Mae'r rôl gyfunol hon yn cynnig amrywiaeth o gyfrifoldebau a chyfleodd unigryw.
Rôl y Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd yw 27 awr yr wythnos, a rôl Cydlynydd SAS yw 10.5 awr yr wythnos, gan wneud y swydd gyfunol hon yn swydd lawn amser 37.5 awr.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Heather Davies Rollinson, Rheolwr Talaith y De orllewin a’r Canolbarth
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: heather@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM22 – MM25, £28,312 - £31,414
Oriau: Llawn amser: 37.5 awr yr wythnos
Gweler Swydd Ddisgrifiadau
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd.
Dyddiad Cau: 10/10/2024