SWYDDOG CLEBRAN SIR Y FFLINT (SWYDDOG IAITH I LEOLIADAU SAESNEG NAS CYNHELIR)
Sir y FflintCYTUNDEB CYFNOD PENODOL EBRILL 2025 - MAWRTH 2026 (ARIENNIR Y SWYDD HON GAN AWDURDOD SIR Y FFLILNT)
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â;
Lou Stevens Jones - lou.stevens.jones@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
· dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM 15 £24,200 – MM20 £27,835 ar sail oriau llawn amser, sef 37.5 awr. Gwir gyflog ar sail gweithio 7.5 awr MM15 £4,176 - MM20 £4,803
Oriau: 7.5 awr yr wythnos
Gweler y swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd
Dyddiad Cau: 24/03/2025
Dyddiad Cyfweliad: 26/03/2025