Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Dinah Ellis - dinah@meithrin.cymru / 01970 639639
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
· dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM15 – MM20, £22,902- £26,538 (oriau llawn 37.5 awr). Gwir gyflog ar sail 22.5 awr yr wythnos : MM15 £11,857 - MM20 £13,739
Oriau: 22.5 awr yr wythnos
Gweler y swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd.
Dyddiad Cau: 23/01/2025
Dyddiad Cyfweliad: 29/01/2025