Ydych chi’n arweinydd neu’n aelod o bwyllgor Cylch Meithrin?

Ydych chi eisiau cyngor ar faterion penodol?

Yn y syrjeris ar-lein hyn, cewch gyfle i siarad gyda’n timau arbenigol.

Cynhelir 2 syrjeri gwahanol:

  • y cyntaf yn canolbwyntio ar y Llawlyfr Staff Cylch Meithrin
  • yr ail yn canolbwyntio ar faterion elusennol.

Bydd pob syrjeri yn cael ei gynnal ar-lein trwy ddefnyddio Zoom.

Bydd angen archebu slot amser penodol er mwyn medru cymryd rhan yn un o’r sesiynau.

Syrjeri 1- Llawlyfr Staff Cylch Meithrin

Dyma gyfle i chi holi Angharad, ein Rheolwr Polisi, a Rhian, ein Rheolwr Adnoddau Newydd, gwestiynau wrth i chi gychwyn defnyddio’r adnodd newydd hwn.

Dewiswch un o’r dyddiadau canlynol:

Dyddiad Amser
23.10.2024 2:30-3:30pm

Cliciwch ar y ddolen yma i archebu eich lle. Ar y ffurflen archebu bydd angen i chi ddewis slot amser. Byddwch yn derbyn neges yn cadarnhau eich archeb a dolen Zoom yn fuan wedi hynny.

Dyddiad Amser
12.11.2024 6:00-7:00pm

Cliciwch ar y ddolen yma i archebu eich lle. Ar y ffurflen archebu bydd angen i chi ddewis slot amser. Byddwch yn derbyn neges yn cadarnhau eich archeb a dolen Zoom yn fuan wedi hynny.

 

Syrjeri 2- Materion Elusennol

Ddim yn siŵr os yw strwythur neu brosesau elusennol eich cylch yn gywir? A hoffech drafod unrhyw fater yn ymwneud â’ch elusen neu ganllawiau’r Comisiwn Elusennau?

Dyma gyfle i gael sgwrs gyda Marged, ein Rheolwr Materion Elusennol a Llywodraethant am gyngor.

Dewiswch un o’r dyddiadau canlynol:

Dyddiad Amser
18.11.2024 6:30-7:30pm

Cliciwch ar y ddolen yma i archebu eich lle. Ar y ffurflen archebu bydd angen i chi ddewis slot amser. Byddwch yn derbyn neges yn cadarnhau eich archeb a dolen Zoom yn fuan wedi hynny.

Dyddiad Amser
19.11.2024 1:30-2:30pm

Cliciwch ar y ddolen yma i archebu eich lle. Ar y ffurflen archebu bydd angen i chi ddewis slot amser. Byddwch yn derbyn neges yn cadarnhau eich archeb a dolen Zoom yn fuan wedi hynny.