Dyma un o fy hoff lyniau a gymerwyd yn ysgol y Gaiman. I fi mae’n lun pwerus yn dangos amryw o bethau. Roedd defnydd o ‘loose parts’ yn yr ysgol yn wych! Roedd y plant yn cael cyfle i ddefnyddio eu dychymyg a chreadigrwydd wrth adeiladu ‘cestyll’ a ‘mynyddoedd’ ac adeiladu tyrau. Wrth gyfuno iaith a mathemateg i mewn i’r weithgaredd yn ogystal â chymharu meintiau ‘tyrau’ roedd llawer o sgiliau yn cael ei ddysgu wrth chwarae gyda rhywbeth mor syml â ‘tiwbiau’.  Roedd y tiwbiau yn gallu cynnig oriau o hwyl i’r plant, ac i mi. Yn y llun gwelwch Senior Judith yn hapus ac yn chwerthin yn ymateb fel y ferch i fy ystumiau i. Roedd y berthynas rhwng yr athrawon a’r disgyblion yn hyfryd i’w weld, perthynas agos ac roedd yn amlwg bod yr athrawon yn mwynhau eu swyddi.

Dyma lun o ardal chwarae tu allan Ysgol Feithrin yr Hendre. Dwi wrth fy modd efo’r ffaith bod y plant yn cael y rhyddid i ddringo ond wrth ddilyn rheolau. Roedd y plant yn ymwybodol o’r rheol mai 3 sy’n cael bod ar y ffrâm ddringo ar y tro ac roedd yr holl blant yn dda am ddilyn y rheol. Mae Senior Romi yn y llun yn arsylwi ar y plant yn chwarae ac yn gadael iddynt gymryd risg sydd yn cyfrannu tuag at eu datblygiad corfforol a hyder personol.