Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r enillwyr a ddaeth i’r brig yn ein Seremoni Gwobrau a gynhaliwyd yn yr Ysgubor, Fferm Bargoed, Aberaeron ddydd Sadwrn diwethaf (17 Hydref).
Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a’r meithrinfeydd dydd ac fe gyflwynwyd y seremoni mewn modd cynnes a chroesawgar iawn gan Elin Fflur, cantores a chyflwynydd cyfarwydd ar y teledu a’r radio.
Meddai Iola Jones, Partneriaethau a Chyfathrebu Mudiad Meithrin:
“Roedd y Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a’r Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaethau yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 700 o enwebiadau eleni, sy’n nifer anhygoel ac yn ffordd wych o ddathlu twf a llwyddiant y Seremoni Gwobrau ers iddi gael ei chynnal gyntaf 10 mlynedd yn ôl i’r diwrnod. Mae’r seremoni arbennig hon yn ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”
Meddai Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd i ddathlu, cydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad am yr holl waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru. Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.”
Enillwyr Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin 2026
Cynorthwyydd
Eryn Roberts, Cylch Meithrin Bro Alun, Wrecsam
Ardal Chwarae a Dysgu Tu Allan
Cylch Meithrin Y Gorlan Fach, Tremadog, Gwynedd
Cylch i Bawb
Cylch Meithrin Machynlleth, Powys
Cylch Meithrin Bach
Cylch Meithrin Deri Bach, Llanbedr Pont Steffan
Cylch Ti a Fi
Ti a Fi Llangwyrfon, Ceredigion
Dysgu a Datblygu
Cylch Meithrin Machynlleth, Powys
Gwirfoddolwr
Ben Davies, Ffrindiau Bach Tegryn, Aberporth
Meithrinfa Ddydd
Meithrinfa Twts Tywi, Sir Gâr
Arweinydd
Myfanwy Harman, Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful
Siaradwyr Cymraeg Newydd
Dani Abrantes, Cylch Meithrin Y Graig, Clwyd
Cylch Meithrin Talaith y De-Ddwyrain
Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful
Cylch Meithrin Talaith y De-Orllewin
Cylch Meithrin Rhaeadr, Powys
Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Orllewin
Cylch Meithrin Y Gorlan Fach, Tremadog, Gwynedd
Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Ddwyrain a’r Canolbarth
Cylch Meithrin Machynlleth, Powys
Cylch Meithrin Cymru
Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful