Hyfforddiant Gofal Plant

Mae Cam wrth Gam yn cynnig cyrsiau sy’n eich galluogi i ennill cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant a Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Byddwch yn dysgu gan ein staff arbenigol ac yn cael profiad dydd i ddydd gyda phlant bach.

Er mwyn cael eich derbyn i wneud y cynllun gallwch fod yn gyflogedig mewn lleoliad addas e.e. Cylch Meithrin, Meithrinfa ddydd neu ysgol gynradd Gymraeg.

Mae’r cyrsiau yn 18 mis o hyd a bydd rhaid i chi gael eich cyflogi yn y lleoliad am o leiaf 16 awr yr wythnos.

I ddysgu mwy am y cyrsiau unigol dewisiwch un o’r opsiynau isod.

Portffolio Hyfforddiant
Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol – Sut allwn ni weithio gyda chi i ddarparu cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant drwy gyfrwng y Gymraeg

Lawrlwytho