Mae pob Cylch Meithrin sy’n ymaelodi gyda Mudiad Meithrin yn ymrwymo i rannu ein gweledigaeth fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ddysgu, chwarae, tyfu a ffynnu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Drwy ymaelodi gyda ni byddwch yn:

  • derbyn cefnogaeth gan ein staff
  • cael mynediad i gymorth ariannol drwy ein cronfa grant blynyddol, grant cychwynnol neu grant argyfwng
  • cael cyfle i fynychu sesiynau hyfforddiant i ymestyn sgiliau drwy Academi
  • derbyn cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith ymhellach
  • derbyn gwybodaeth cyson a chyfredol am newidiadau a digwyddiadau o fewn y Blynyddoedd Cynnar
  • gallu Marchnata’r cylch drwy adran ‘chwilio am gylch‘ ar y wefan
  • derbyn adnoddau a chyfle i ymgeisio am farc safon Safonau Serennog
  • cael cyfle i hysbysebu unrhyw swyddi gwag ar ein gwefan
  • cael mynediad i llwyth o ddogfennau ac adnoddau amrywiol sy’n gymorth i redeg Cylch Meithrin ar ein mewnrwyd
  • a llawer mwy

Mae rhestr lawn o’r gwasanaethau a’r adnoddau sy’n cael eu cynnwys fel rhan o becyn Aelodaeth y Mudiad i’w gweld yn y Pecyn Cofrestru isod.

Mae modd cofrestru ar lein drwy fynd i’r fewnrwyd.

Mae disgwyl i bob Cylch Meithrin gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Plant (AGC) a chydymffurfio â Pholisi Iaith Mudiad Meithrin. Os hoffech drafod bod yn aelod gallwch gysylltu â’ch swyddog cefnogi lleol neu gyda’r brif swyddfa yn Aberystwyth.

Pecyn Gwasanaethau i Gylchoedd Meithrin 2023-24

Lawrlwytho