Mae dros 400 o Gylchoedd Meithrin llwyddiannus yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, sy’n cydweithio er mwyn budd yr iaith Gymraeg yn eu cymunedau.

Mae gan bob pwyllgor Cylch Meithrin Swyddog Cefnogi lleol sydd ar gael i roi cyngor ar faterion sy’n codi wrth redeg Cylch Meithrin.
Nid oes disgwyl i unrhyw aelod pwyllgor fod yn arbenigwr, a nid oes disgwyl i bob aelod o’r pwyllgor fedru siarad Cymraeg, er mai’r Gymraeg yw’r iaith ar lawr y cylch. Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir i fod yn rhan o bwyllgor y cylch.
Isod mae ychydig o bwyntiau i’ch rhoi ar ben ffordd.