Dewin yw cymeriad hoffus y Mudiad ac mae ganddo ffrind o’r enw Doti.

Mae Dewin a Doti yn byw yn y Balalŵn fawr yn yr awyr. Maent wrth eu boddau yn gwibio i lawr i chwarae gyda phlant bach yn y Cylchoedd Meithrin.

Dim ond Cymraeg mae Dewin yn gallu siarad a’i ddeall felly mae Dewin wrth ei fodd yn clywed plant bach yn chwarae, siarad ac yn canu yn Gymraeg.

Mae Dewin a Doti yn hoffi canu, dawnsio a phob math o ymarfer corff.

Gall Dewin hefyd wneud hud a lledrith ac mae bob math o bethau’n dod allan o’i het hud!

Mae gan Dewin a Doti lawer o adnoddau yn y Cylchoedd Meithrin e.e. pyped Dewin, tegan meddal Doti, llyfrau, CDau o ganeuon ac mae’r rhain hefyd ar gael o’r Siop arlein Dewin a Doti.

Mae rhai o’r adnoddau i’w gweld isod sy’n cynnwys 2 gartŵn Dewin a Doti ichi eu gwylio a’u mwynhau.

 

Cofiwch anfon eich lluniau ohonoch chi gyda Dewin a Doti at marchnata@meithrin.cymru.

Ydych chi wedi gweld ein cartŵn newydd Dewin a Doti?

 

Dyma ein cartŵn NEWYDD ‘Helfa Drysor Dewin a Doti’ a gafodd ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd 2023! I archebu’r llyfr wedi ei ysgrifennu gan Lleucu Fflur Lynch sydd yn cydfynd a’r cartŵn yma, ewch draw i’n siop ar-lein gan ddilyn y dolen yma.

Diolch i Cloth Cat am yr animeiddiad a diolch i Geraint Pickard am y troslais!

Eisiau gweld mwy?

Dyma ein rhestr chwarae ‘Cartŵn Dewin a Doti’ sydd nawr ar gael i wylio ar YouTube!

Beth am ddal i fyny wrth wylio Gŵyl 2021 a 2022?

Cylfe i wylio sioeau 2021 a 2022 unwaith eto!

Beth am ddawnsio a chanu gyda Siani Sionc a Dewin?

Cyfres o ganeuon adnabyddus i’r plant ddawnsio a chanu gyda.