Gwobrwyo a chlodfori'r holl waith da y mae staff a gwirfoddolwyr yn ei gyflawni ar lawr gwlad.
Gwobrau 2023
Mae’r cyfnod enwebu wedi agor, dyma’ch cyfle i ddiolch a dathlu’r holl waith da sy’n digwydd ar lawr gwlad. Mae’n bosib i unrhyw un enwebu unrhyw un.
Eleni mae 12 categori gwobr sef;
- Arweinydd
- Chwarae a Dysgu Tu Allan
- Cylch Meithrin
- Cylch Meithrin Bach (12 neu lai ar y gofrestr)
- Cylch Ti a Fi
- Cylch i Bawb
- Cynorthwy-ydd
- Gwirfoddolwr – Ffrind i’r cylch
- Meithrinfa Ddydd
- Pwyllgor
- Dysgu a Datblygu
- Dysgwyr y flwyddyn **NEWYDD**
Ddim yn siŵr beth i’w gynnwys yn yr enwebiad? edrychwch ar ein canllawiau enwebu isod.
Eleni am y tro cyntaf mae modd enwebu drwy ddanfon fideo yn esbonio pwy rydych yn enwebu, ym mha gategori a pham. Anfonwch eich fideo at gwobrau@meithrin.cymru cyn y 1af o Fai.