Fel sefydliad sy’n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg, rydym yn gwerthfawrogi fod dod o hyd i ofal plant o safon uchel yn hynod o bwysig ichi fel rhiant.

Trwy ein gweithgareddau rydym yn cynnig taith rwydd i’ch plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg. Cynigiwn nifer o wahanol grwpiau i chi a’ch plentyn o’r crud i’r ysgol gan ddechrau gyda grwpiau Cymraeg i Blant > Cylch Ti a Fi > Cylch Meithrin.

Gan fod gennym  50 mlynedd o brofiad ym maes addysg a blynyddoedd cynnar, a thros 1,500 o staff cymwys a chyfeillgar yn gweithio yn ein Cylchoedd Meithrin ledled Cymru, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg blynyddoedd cynnar orau yn eich Cylch Meithrin lleol.

Yn y Cylch Meithrin bydd cyfle i’ch plentyn fwynhau cwmni plant eraill a dysgu trwy chwarae dan ofal staff cymwys, cyfeillgar a brwdfrydig.

Cliciwch yma i chwilio am eich Cylch Meithrin lleol chi.

Parhau gydag addysg Gymraeg yw’r cam nesaf o’r Cylch Meithrin.

Mae symud o Gylch Meithrin i addysg Gymraeg yn gam naturiol a phwysig i’ch plentyn er mwyn iddo barhau i fwynhau profiadau dysgu a chwarae cyfoethog trwy gyfrwng y Gymraeg.

Croeso i’r Cylch Meithrin

Dyma brospectws lliwgar sy’n rhoi syniad ichi o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth anfon eich plentyn i’r Cylch Meithrin

Lawrlwytho

Siarad Dwy Iaith

Llyfryn dwyieithog sy’n amlinellu sut mae plant yn dysgu dwy iaith ac yn datblygu sgiliau dwyieithog

Lawrlwytho

Taflen Amlieithog

Taflen mewn 8 iaith sy’n egluro’n syml y manteision o roi addysg Gymraeg i’ch plentyn

Lawrlwytho