Hoffet ti siarad Cymraeg adref gyda’r plant?
Mae Clwb Cwtsh yn gwrs blasu Cymraeg rhad ac am ddim sydd wedi’i anelu at ddysgwyr newydd ac sy’n canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref.
Mae’r cyrsiau yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn a gelli ddewis eu gwneud wyneb yn wyneb neu dros y wê.
I ddarganfod mwy am sesiynau yn dy ardal di:
- e-bostia: clwbcwtsh@meithrin.cymru
- chwilio ar-lein ar Trydar neu Facebook
- ffonio swyddfa Aberystwyth ar 01970 639639