Dyma gwrs dysgu Cymraeg am ddim sydd wedi ei greu yn arbennig ar gyfer staff mewn Cylchoedd Meithrin, meithrinfeydd dydd a gofalwyr plant.
Mae hwn yn gwrs hunan-asudio, ar-lein ar lefel Mynediad (felly mae’n addas i ddechreuwyr, a rhai sydd wedi cwblhau Cyrsiau Blasu).
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Tua 20 awr o ddysgu annibynnol
- Cymraeg i’w ddefnyddio gyda’r plant
- Yr Wyddor, dysgu’r lliwiau, dyddiau’r wythnos a rhifo
- Gwahanol orchmynion a chwestiynau
Am restr llawn o’r sgiliau newydd y byddwch yn ei ddysgu ar y cwrs, cliciwch yma.
Mae disgywl i bob dysgwr gyflawni tua un Uned yr wythnos. Dylai’r cwrs gymryd tua 10 wythnos i’w gwblhau.
Rhian Thomas yw Cydlynydd Hyfforddiant Iaith Mudiad Meithrin, ac mae Rhian ar gael i’ch helpu, eich ysbrydoli a’ch cynghori wrth gwblhau’r cwrs!
I gofrestru eich diddordeb, cliciwch isod:
https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/camau-2021/
** Wrth nodi Enw Cyflogwr – nodwch ymhle rydych chi’n gweithio e.e. Cylch Meithrin Llanbobman