Mae Gŵyl Dewin a Doti yn teithio o gwmpas Cymru rhwng 13 Mehefin a 30 Mehefin 2022.
Newyddion da i ffrindiau bach Dewin a Doti! Mae Gŵyl Dewin a Doti yn dychwelyd ar ei ffurf arferol eleni ac yn teithio o gwmpas Cymru am dair wythnos rhwng 13 Mehefin a 30 Mehefin 2022.
Bydd y sioe yn cael ei chynnal ym mhob talaith yng Nghymru ac yn teithio i Ynys y Bari, Abertawe, Caerfyrddin, Llanrhystud, Y Trallwng, Wrecsam, Llandudno, Bala, Ynys Môn a Chaernarfon.
Y thema eleni yw Cadw’n Heini a’r diddanwr poblogaidd Siani Sionc fydd yn arwain y sioeau – gyda chymorth Dewin a Doti wrth gwrs! Daeth Siani Sionc i fodolaeth yn sgil cystadleuaeth Meithrin Talent ar y cyd rhyngom ac Urdd Gobaith Cymru.
Isod gelli ddod o hyd i fanylion y lleoliadau i gyd, linc i’r gerddoriaeth sy’n rhan o’r daith a llyfryn gweithgareddau ar y thema.
Dyma ddyddiadau a lleoliadau’r daith i gyd gyda manylion sut y gallwch gael tocyn i’r sioe.
Mehefin 13, 14 a 15 – Witches hat Area on the Eastern prom, Ynys y Barri
Cyswllt – Rhian Thomas rhian.thomas@meithrin.cymru
Mehefin 17 – Gerddi Botaneg, Caerfyrddin
Cyswllt – Tanwen Randell tanwen.randell@meithrin.cymru
Mehefin 20 – Fferm Ffantasi, Llanrhystud
Cyswllt – Donna Thomas donna.thomas@meithrin.cymru 07792 946 917
Mehefin 21 – Llysyfran, Sir Benfro
Cyswllt – Jill Lewis 07800 540 434
Mehefin 22 – Y Trallwng
Gŵyl Dewin a Doti 2022 – Y Trallwng
Mehefin 23 – Ty Pawb, Wrecsam
Gŵyl Dewin a Doti 2022 – Wrecsam
Mehefin 24 – Venue Cymru, Llandudno
Gŵyl Dewin a Doti 2022 – Llandudno
Mehefin 27 – Yr Hwb, Bala
Cyswllt – Helen Rees-Jones helen.rees-jones@meithrin.cymru
Mehefin 28 – Neuadd fwyd, Cae sioe Môn, Mona
Cyswllt – Elin Haf Elin.Haf@meithrin.cymru
Mehefin 29 – Y Galeri, Caernarfon
Cyswllt – Swyddfa Docynnau Y Galeri – 01286 685250 neu ar eu gwefan
Mehefin 30 – Nant Gwrtheyrn
Cyswllt – Buddug Hughes buddug.hughes@meithrin.cymru
Dyma’r caneuon fydd yn cael eu clywed a’u canu ar hyd y daith.