Mae cynllun Clebran yn darparu cymorth iaith Gymraeg i gylchoedd chwarae a meithrinfeydd cyfrwng Saesneg.

Mae Swyddogion Clebran yn cyflwyno un gweithdy ar-lein ar thema benodol (e.e. Tywydd Amser a’r Tymhorau, Fy Niwrnod, Amser Chwarae) bob hanner tymor, gyda dewis o sesiynau prynhawn neu gyda’r nos. Darperir llawlyfr rhyngweithiol digidol i’r lleoliadau sy’n mynychu, sy’n cynnwys y patrymau iaith, gweithgareddau a chaneuon a gyflwynir yn y gweithdy ar-lein.

Gwahoddir staff i sesiwn ar-lein 1-1 gyda’u Swyddog Clebran rhwng y gweithdai, i dderbyn cymorth pellach neu i drafod unrhyw heriau y gallent fod yn eu hwynebu wrth gyflwyno cynnwys y gweithdai yn eu  darpariaethau.

Cynhelir ymweliadau cymorth wyneb yn wyneb hefyd gan swyddog Clebran bob tymor (lle mae oriau’n caniatáu), i fodelu patrymau a gweithgareddau iaith, ac asesu cynnydd y lleoliadau.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: lou@meithrin.cymru

 

Poster Clebran

Lawrlwytho