Yn yr adran cewch wybodaeth am ein Grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd dydd a chael mwy o wybodaeth am Addysg Gymraeg

Rydym yn angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg, a chredwn fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i wneud hynny.

Rydym yn gwerthfawrogi fod dod o hyd i ofal plant o safon uchel yn hynod o bwysig ichi fel rhiant.

Gan fod gennym 50 mlynedd o brofiad ym maes addysg a blynyddoedd cynnar, a thros 1,000 gylchoedd a grwpiau amrywiol ar hyd a lled Cymru, gallwn sicrhau y byddwch chi a’ch plentyn yn mwynhau profiadau llawn hwyl a chyfoethog wrth ymuno ag un teulu mawr Mudiad Meithrin.

Yn yr adran yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein Grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin a’r math o weithgareddau hwyliog sydd ar gael yno. Gallwch chwilio am ofal plant yn eich ardal chi gyda’n map rhyngweithiol.