Fel rhiant, dewis yr addysg orau i’ch plentyn fydd un o’r penderfyniadau pwysicaf fyddwch chi’n ei wneud. Credwn fod plant yn elwa o addysg Gymraeg gan dyfu'n hollol ddwyieithog.

Rydym yn angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu, tyfu a ffynnu trwy’r Gymraeg. Credwn fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i addysg Gymraeg. Mae nifer fawr o rieni yn dweud fod dewis addysg Gymraeg i’w plentyn wedi profi yn brofiad gwerth chweil i’r plentyn ac i’r teulu yn gyffredinol.

Addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod eich plentyn yn datblygu sgiliau dwyieithog. Mae gallu siarad Cymraeg yn fanteisiol wrth geisio am swyddi yng Nghymru. Yn aml, mae bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei ystyried yn sgil ychwanegol. Mae nifer o swyddi yn nodi fod gallu’r Gymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol. Mae mwy o alw heddiw nag y bu erioed am sgiliau dwyieithog mewn amrywiaeth o swyddi e.e. iechyd, addysg, hamdden, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus.

Trwy roi’r Gymraeg i blant bach Cymru rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddiwylliannol agored a llawn bywyd.

Trwy’r fynd i’r gwahanol grwpiau a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg – gan ddechrau gyda Cymraeg i Blant yna i’r Cylch Ti a Fi ac yna i’r Cylch Meithrin.

Taflen Amlieithog

Mae Mudiad Meithrin yn credu y dylai pob plentyn fod gyda’r hawl i addysg Gymraeg. Mae ein taflenni hyrwyddo addysg Gymraeg ar gael mewn 8 iaith: Arabeg, Bengali, Punjabi, Saesneg, Pwyleg, Somali, Cymraeg ac Urdu.

Lawrlwytho

Taflen Siarad Dwy Iaith

Darllenwch mwy am ddarganfod y camau cyntaf at Ddwyieithrwydd.

Lawrlwytho