Mae Cymraeg i blant ar gael o’r cychwyn cyntaf i dy helpu di fel rhiant newydd i siarad Cymraeg gyda dy blentyn yn y cartref ac i dy gefnogi di wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Mae ein grwpiau wythnosol am ddim fel Tylino a Ioga babi ac Arwyddo stori a chân yn dy helpu i ddysgu mwy am ba hwiangerddi, llyfrau ac apiau y gellir eu cyflwyno adre – maent hefyd yn gyfle i ti gymdeithasu a chwrdd â rhieni newydd.
Mae hefyd modd ymuno gydag ein sesiynau ar-lein am gefnogaeth bellach – Tylino babi, Fi a fy Mabi a Cuppa & Chat Cymraeg i ymarfer dy Gymraeg.
Parhau gydag addysg Gymraeg yw’r cam nesaf.
Mae symud ymlaen o’r grwpiau Cymraeg i Blant i Gylch Ti a Fi yn gam naturiol a phwysig i’ch plentyn er mwyn iddo barhau i fwynhau profiadau dysgu a chwarae cyfoethog trwy gyfrwng y Gymraeg.