Mae’r sesiynau gwybodaeth ar-lein yma wedi eu teilwra ar dy gyfer di fel darpar riant neu riant newydd er mwyn dod i ti ddod i ddeall mwy am y manteision o gyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i dy blentyn.
Byddwn yn trafod datblygiad iaith mewn ymennydd plentyn bach, y manteision gwybyddol, addysgol a chymdeithasol yn ogystal a rhannu adnoddau i dy helpu di adre.
Yn ogystal â rhannu gwybodaeth am sut i gofrestru mewn Cylch Meithrin ac yn yr ysgol Gymraeg lleol byddwn hefyd yn trafod pa gyfleoedd eraill sydd ar gael yn y gymuned i ti a dy deulu gyda Dysgu Cymraeg, yr Urdd a’r Mentrau Iaith leol.
I gofrestru ar grŵp clicia yma
I gysylltu gyda dy Swyddog Cymraeg i blant lleol clicia yma