Cyfres o bodlediadau yw 'Baby Steps' sy'n rhoi cyfle i chi glywed sgyrsiau a phrofiadau rhieni am Addysg Gymraeg a sgyrsiau am y Cwricwlwm Newydd

Mae’r cyflwynydd teledu Nia Parry wedi cyflwyno 2 cyfres o bodlediadau o dan yr enw Baby Steps into Welsh’ , sy’n rhannu profiadau rhieni am daith eu plant trwy Addysg Gymraeg hyd yma. Ym mhob pennod mae Nia Parry yn cwrdd â rhieni sy’n trafod eu siwrneiau personol yn agored iawn ac mae arbenigwr yn ymuno â Nia i rannu ei harbenigedd a’i phrofiadau gyda rhieni sy’n wynebu’r penderfyniad am gyfrwng addysg eu plant.

Cyfres NEWYDD o bodlediadau yw Camau Bach i’r Cwricwlwm. Y podlediadau yma yw’r cynta o’u math am y Cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Yn ein cyfres newydd o bodlediadau byr, bydd Nia Parry yn sgwrsio gyda Vanessa Powell, Arbenigwr Cwricwlwm  Mudiad Meithrin a staff y Cylchoedd Meithrin, am yr hyn mae’r Cwricwlwm yn ei olygu i blant, teuluoedd ac ymarferwyr Mudiad Meithrin.

Bydd y gyfres ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg trwy eich ap podlediadau arferol neu drwy’r linc isod.