Cyfres newydd sbon o bodlediadau sy’n trafod y Cwricwlwm Newydd.
Vanessa Powell
Yn y bennod hon cawn glywed beth fydd effaith y Cwricwlwm i’n darpariaeth ni o fewn y Cylchoedd Meithrin, a sut mae Vanessa a staff y Mudiad wedi bod yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Cwricwlwm newydd.
Charlotte Thrussle
Yn y bennod hon cawn glywed mwy am y Llwybr Datblygu Lles, a sut mae lles plant yn rhan hollbwysig o’r Cwricwlwm newydd.
Kayleigh Bickford
Canu, Makaton, actio, Facetime – rhai o’r dulliau cyfathrebu mae Kayleigh Bickford o Gylch Meithrin Beddau yn trafod gyda Nia Parry ym mhennod ddiweddaraf ein podlediad.