Sut i enwebu

Gwobrau 2024

Dyma’r 12 categori gwobr eleni sef:

  • Arweinydd
  • Chwarae a Dysgu Tu Allan
  • Cylch Meithrin
  • Cylch Meithrin Bach
  • Cylch Ti a Fi
  • Cylch i Bawb
  • Cynorthwy-ydd
  • Gwirfoddolwr
  • Meithrinfa Ddydd
  • Pwyllgor
  • Dysgu a Datblygu
  • Dysgwr y flwyddyn

Mae panel mewnol, sy’n cynnwys staff arbenigol o wahanol adrannau’r Mudiad, yn tynnu rhestr fer o’r holl enwebiadau. Yna caiff yr enwebiadau eu cyflwyno i banel allannol sy’n cynnwys arbenigwyr ym maes y Blynyddoedd Cynnar ac aelodau o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Mudiad.

  • Nid yw ateb 1 brawddeg fesul rheswm yn ddigonol – bydd yr enwebiad yn debygol iawn o gael ei ddiystyru
  • Ceisiwch roi rhesymau llawn gan roi enghreifftiau penodol i gefnogi’r rheswm
  • Ni fyddwn yn dyfarnu ar sail nifer yr enwebiad sydd wedi ein cyrraedd e.e. bydd 1 enwebiad cryf yn well na 10 enwebiad gwan

Ddim yn siŵr beth i’w gynnwys yn yr enwebiad? Edrychwch ar ein canllawiau enwebu isod. Ni dderbynnir unrhyw enwebiad sy’n nodi’r rhesymau hyn air am air, rhaid nodi enghreifftiau penodol.

Arweinydd

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Llwyddo i adeiladu perthnasau gwych gyda’r plant, rhieni a’r gymuned
  • Rheoli ac yn arwain y tim gyda brwdfrydedd ac mewn ffordd arloesol ac ysgogol
  • Trawsnewid y Cylch wrth gydweithio gyda’r staff a’r rhanddeilliaid
  • O hyd yn chwilio am syniadau newydd arloesol i ddatblygu amgylcheddau’r Cylch – tu mewn a thu allan
  • Ymrwymiad i’r cylch, y tîm a’r gymuned
  • Arweinydd hyderus sydd yn modeli ymddygiad a iaith bositif a chadarnhaol
  • Arweinydd sydd yn gofyn cwestiynau, ymgynghori ac yn rhoi amser i wrando ar staff, plant, rhieni a phartneriaid
  • Eirioli dros y cylch ac addysg Gymraeg
  • Hyrwyddo dilyniant i addysg Gymraeg gydag enghreifftiau o arfer dda ac effeithiol
  • Arweinydd sydd yn monitro, arsylwi a myfyrio ar ansawdd yn gyson ac yn addasu, newid a gwella gydag anghenion y plant wrth wraidd pob newid
  • Arweinydd sydd yn cynllunio’n effeithiol gan wneud addasiadau rheolaidd i gwrdd ag anghenion pob plentyn

Rydym eisoes yn gwybod bod yr Arweinydd yn ofalgar o’r plant, a bod y plant yn ddiogel ac yn hapus. Mae hyn i’w ddisgwyl fel rhan o’u rôl. Beth sydd yn sbesial am yr Arweinydd a beth mae’n gwneud tu hwnt i’r gofynion arferol o arwain Cylch?

 

Cynorthwy-ydd

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Cefnogi’r arweinydd drwy gynnig syniadau a gweithgareddau sydd yn ymestyn profiadau a sgiliau’r plant
• Cynorthwy-ydd hyderus sydd yn gyfforddus i arwain gweithgaredd tu fewn a thu allan
• Ymrwymiad i’r cylch, y tîm a’r gymuned
• Cynorthwyydd sydd yn ymgynghori ac yn rhoi amser i wrando ar y plant
• Cymryd cyfleoedd i ddatblygu ei hun er lles y cylch
• Cymryd cyfrifoldebau ychwanegol i’r disgwyliadau o ran swydd ddisgrifiad
• Rhoi amser gwirfoddol er mwyn cynnig profiadau ychwanegol i’r plant e.e. carnifal ar ddydd Sadwrn

Rydym eisoes yn gwybod bod y Cynorthwyydd yn ofalgar o’r plant, a bod y plant yn ddiogel ac yn hapus. Mae hyn i’w ddisgwyl fel rhan o’u rôl. Beth sydd yn sbesial am y Cynorthwyydd a beth mae’n gwneud tu hwnt i’r gofynion arferol o arwain Cylch?

 

Chwarae a Dysgu Tu Allan

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Yn defnyddio’r tu allan i fod yn ofod o safon uchel ymhob tywydd bob diwrnod sy’n cynnwys adnoddau dilys a phwrpasol
• Wedi gwneud y defnydd gorau oll o’r tu allan sy’n hybu datblygiad, hyder a gwydnwch y plant
• Mae’r cylch/meithrinfa yn cynnig profiadau tu allan cyson a chadarnhaol ble gall plant ymlacio, myfyrio a bod yn dawel (mewn lloches neu den) yn ogystal ac archwilio, redeg, neidio, dringo a bod yn swnllyd
• Ymarferwyr sydd yn gyfforddus ac hyderus yn y tu allan ac sydd yn caniatâi plant cymryd risg
• Defnyddio’r tu allan ble mae plant yn gallu arsylwi a gwrando ar natur
• Enghreifftiau o greadigrwydd sydd yn ymestyn sgiliau corfforol, dychmygus a chyfathrebu plant gan ddefnyddio darnau rhydd bach a mawr
• Cynnig cyfleoedd unigryw tu allan drwy ddefnyddio’r ardaloedd cyfagos e.e. coedwig, y parc, y cae
• Rhoi cyfleoedd i’r plant dyfu planhigion e.e. blodau, llysiau a ffrwythau
• Mae’r defnydd o’r tu allan yn cynnwys cyfleoedd i ehangu iaith, rhifedd a llythrennedd digidol
• Yr ardal tu allan yn cynnig cyfleoedd am chwarae mentrus ac i gymryd risg
• Ydych chi’n mynd a’r plant allan o’r cylch i ymweld â’r gymuned, i’r parc, y traeth neu’r siopau?
• Ydy’ch lle tu allan yn hollol gynhwysol gyda mynediad at bopeth i bob plentyn?
• Os oes gennych ardal tu allan bach sut ydych yn ei ddefnyddio i’r eithaf i gynnig profiadau newydd?
• Os nad oes ardal tu allan gennych sut ydych chi’n cynnig profiadau tu allan cyson a chadarnhaol e.e defnyddio parciau, mynd am dro, taith trên ac ati

 

Cylch Meithrin a Cylch Meithrin Bach

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• CM sydd yn hyderus i rannu arferion da ac effeithiol gydag eraill ee ymarferwyr eraill, MM, Academi neu Hwb
• Trefnir ymweliadau cyson i mewn i’r cylch a thu allan er mwyn hybu datblygiad y plant
• Cydweithio agos iawn gyda’r ysgol Gymraeg leol er mwyn hybu dilyniant a threfniadau pontio arloesol
• Cylch yn darparu gwasanaethau ychwanegol yn ôl gofynion rhieni lleol e.e. gofal cofleidiol, cynnig 30 awr
• Wedi ymrwymo ac yn gweithredu Cwricwlwm Newydd i Gymru
• Defnyddio ffyrdd arloesol i gyfathrebu gyda rhieni presennol a marchnata i ddarpar rieni e.e. apiau, cylchlythyron, cyfrifon cymdeithasol, papurau bro
• CM sydd yn edrych am gyfleoedd i ddatblygu a gwella ansawdd trwy hyfforddiant ac ymweliadau i ddarpariaethau eraill
• Staff yn mynychu hyfforddiant rheolaidd ar feysydd amrywiol er mwyn cynnig profiadau dysgu ychwanegol yn y cylch
• Y plant yn sail i bopeth yn y cylch
• CM sydd yn darparu profiadau cyfoethog i blant
• Gwneud gwaith arbennig ym meysydd iaith, rhifedd a llythrennedd digidol
• Mae gan y cylch bartneriaethau allanol amrywiol yn y gymuned
• Mae profiadau cyfoethog yng nghyd destun trochi iaith
• Mae’r plant yn dylanwadu ar themau a gweithgaredd y Cylch
• Mae’r cylch yn gweithio gyda rhieni i ddatblygu sgiliau’r plant yn y cartref
• Mae pawb yn rhoi ymroddiad llawn i’r cylch (staff, teuluoedd, partneriaid, plant, y gymuned)
• Mae’r cylch wedi gwreiddio ac yn adlewyrchu’r gymuned

Does dim rhaid i gylch Meithrin fod yn Gylch Meithrin mawr sydd yn cynnig amryw o wasanaethau megis Dechrau’n Deg neu Addysg. Y pwyslais yw Cylch sydd yn cynnig profiadau cyfoethog i blant y Cylch, creadigrwydd ac adnabod cyfleodd i ddatblygu a’r berthynas gyda’r gymuned.

 

Cylch Ti a Fi

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Y sesiwn yn gynhwysol i’r ardal ac yn gwneud ymdrech i ddenu teuluoedd o wahanol gefndiroedd iddo
• Cynllunio amrywiaeth o weithgareddau sy’n llwyddo i ddenu teuluoedd newydd a chadw teuluoedd i fynychu’n wythnosol
• Ysbryd cymunedol gydag amrywiaeth o genedlaethau yn mynychu
• Cynnal prosiectau gyda’r gymuned e.e. cydweithio gyda’r cartrefi hen bobl
• Cyfleoedd gwych i gyflwyno’r Gymraeg i deuluoedd a magu hyder y teulu i ddysgu Cymraeg
• Enghreifftiau o waith gwych i drawsnewid y cylch mewn tymor byr e.e. cynyddu niferoedd, marchnata da
• Pontio gyda’r Cylch Meithrin a grŵp Cymraeg i Blant cyfagos ac hyrwyddo dilyniant i’r Cylch Meithrin
• Enghreifftiau arloesol o godi arian
• Enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth i gyflwyno’r Gymraeg e.e Cymraeg i Blant, Cymraeg i oedolion, Clwb Cwtsh
• Partneriaeth gyda’r sector Iechyd a grwpiau cymunedol sydd yn rhannu gwybodaeth am ddatblygiad plant a lles y teulu

Cylch i Bawb

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Mynychu neu ddilyn hyfforddiant (e.e. Cylch i Bawb, sesiynau gwrth-hiliaeth neu modiwlau DARPL, sesiynau am hunaniaeth rhywedd, Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu) a gwneud newidiadau i’r lleoliad neu arfer yn y cylch o ganlyniad i’r hyfforddiant
• Adnoddau sy’n dathlu amrywiaeth ar gael i’r plant yn y lleoliad sy’n cael eu defnyddio i drafod gwahaniaethau
• Cynllunio gweithgareddau a phrofiadau dysgu sy’n hybu amrywiaeth hil, corfforol, crefyddol, a modelau teulu gwahanol
• Amgylchedd yn cael ei addasu er mwyn cynnwys pob plentyn, e.e. creu ardaloedd penodol i helpu plentyn ymdopi / addasiadau i gynnwys plentyn anabl mewn gweithgareddau
• Cefnogaeth ardderchog yn cael ei roi i blentyn a theulu’r plentyn, e.e. os oes gan y plentyn ADY, os nad oes gan y teulu sgiliau iaith Cymraeg na Saesneg, dathlu crefydd y plentyn
• Cyflwyno diwylliannau gwahanol mewn ffordd ddilys sy’n osgoi ystrydebau (stereoptyping)

Gwirfoddolwr - Ffrind i'r cylch

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Wedi chwarae rôl flaenllaw wrth gynorthwyo’r cylch drwy gyfnod o drawsnewid e.e. newid lleoliad, ehangu gwasanaeth yn sylweddol, cofrestriad gydag Estyn neu AGC
• Yn arwain y ffordd drwy chwilio am gyllid / grantiau addas i gefnogi gwaith y cylch
• Yn gwneud gwaith arbennig ac ysgogol wrth drefnu digwyddiadau codi arian
• Yn cyfrannu tuag at ofal a phrofiadau’r plant yn y cylch e.e cynorthwyo, cyflwyno’r iaith, darllen stori
• Yn ymwrymo i fynychu hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau newydd
• Oes busnes lleol yn gwahodd y plant am ymweliad neu yn ymweld a’r Cylch gan gynnig profiadau newydd e.e Siop lysiau yn mynd a llysiau i’r cylch i’r plant goginio cawl
• Oes gwirfoddolwr yn cyfrannu amser ac adnoddau nhw ei hun i’r cylch?

Pwyllgor

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

Pwyllgor sydd yn adnabod cyfloedd i ddatblygu gwasanaethau’r cylch a’u staff
• Perthynas gadarn gryf gyda’r staff a’r pwyllgor ac enghreifftiau o gydweithio fel tîm
• Gwneud gwaith marchnata cyson ac yn meddwl am ffyrdd gwahanol i hysbysebu’r cylch
• Llwyddo i gynnal y cylch drwy gael targed codi arian blynyddol
• Pwyllgor yn cwrdd yn aml er mwyn rheoli’r cylch yn gadarn a gweithredu ar y cynlluniau datblygu
• Mae ethos datblygiad proffesiynol parhaus yn y cylch
• Mae ymroddiad gan bawb i’r cylch, rhieni, staff, partneriaid
• Mae’r pwyllgor yn cymryd pob cyfle i ddatblygu gwasanaeth y cylch e.e y Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg, gofal cofleidiol ac ati
• Datblygu sgiliau yn rheolaidd ac yn mynychu hyfforddiant Academi MM

Meithrinfa Ddydd

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Cymuned glos gan y feithrinfa ac yn trefnu digwyddiadau cyson i godi arian ac i ddod a’r teuluoedd ynghyd
• Adnoddau priodol i holl blant ac ystod oedran y feithrinfa yn yr ystafelloedd ac ardal tu allan
• Defnyddio ffyrdd arloesol i gyfathrebu gyda rhieni presennol a marchnata i ddarpar rieni e.e. apiau, cylchlythyron, cyfrifon cymdeithasol, papurau bro
• Trefnir ymweliadau cyson i mewn i’r feithrinfa a thu allan er mwyn hybu datblygiad y plant o bob oedran
• Hybu a hyrwyddo dilyniant i addysg Gymraeg
• Staff yn mynychu hyfforddiant rheolaidd ar feysydd amrywiol er mwyn cynnig profiadau dysgu ychwanegol yn y feithrinfa
• Gwneud gwaith arbennig ym meysydd iaith, rhifedd a llythrennedd digidol i bob ystod oedran
• Y plant yn sail i bopeth yn y Feithrinfa
• Mae gan y Feithrinfa bartneriaethau allanol effeithiol amrywiol yn y gymuned
• Mae’r feithrinfa’n cynnig profiadau cyfoethog yng nghyd destun trochi iaith
• Mae’r plant o bob oedran yn dylanwadu ar themau a gweithgaredd y feithrinfa
• Mae’r Feithrinfa’n gweithio gyda rhieni i ddatblygu sgiliau’r plant
• Mae ymroddiad gan bawb i’r feithrinfa (staff, teuluoedd, partneriaid, plant, y gymuned)

Dysgu a Datblygu

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Mae staff yn frwdfrydig, yn ymrwymo i fynychu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau newydd.
• Mae staff yn manteisio ar gyfleoedd uwchsgilio drwy fynychu cyrsiau Academi neu gynllun Croesi’r Bont, neu drwy gyflogi dysgwr/prentis (trwy Gynllun Cam wrth Gam, MM)
• Mae staff sydd yn mynychu hyfforddiant rheolaidd mewn gwahanol feysydd i ddarparu profiadau dysgu ychwanegol yn y cylch / meithrinfa ddydd
• Mae staff wedi gwneud cynnydd ieithyddol da trwy gwrs Camau neu gynllun Clwb Cwtsh
• Enghreifftiau o sut mae’r cylch / meithrinfa ddydd wedi gwella neu newid eu ffyrdd o weithio ar ôl mynychu hyfforddiant a drefnwyd gan yr academi, neu hyfforddiant Bod y tu allan
• Enghreifftiau o sut mae’r cylch / meithrinfa ddydd wedi gwneud defnydd o adnoddau Dysgu a Datblygu Academi (Adnoddau Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin)
• Darpariaeth sy’n mynd ati’n rhagweithiol i rannu enghreifftiau o arfer da gydag eraill (e.e., ymarferwyr eraill, MM, Academi neu Hwb)

Dim ond rhestr o deitlau hyfforddiant y mae staff wedi’u mynychu. Cyfeiriwch at gyrsiau craidd (fel Cymorth Cyntaf, Amddiffyn Plant).

Dysgwyr y flwyddyn

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

• Deall yr angen i ddilyn polisi Iaith Mudiad Meithrin
• Yn dilyn cyrsiau ac yn defnyddio apiau dysgu Cymraeg e.e. Clwb Cwtsh, Camau, Croesi’r Bont , Duo Lingo, Say Something in Welsh
• Yn hyderus i ddefnyddio cyfarchion Cymraeg gyda staff, plant a rhieni
• Yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg yn unig gyda’r plant
• Ysbrydoli eraill i fod eisiau dysgu Cymraeg drwy rannu profiadau o ddysgu gyda Camau/Clwb Cwtsh?