Cyfle arbennig i ddathlu yr holl waith mae staff a gwirfoddolwyr yn ei gyflawni ar lawr gwlad.

Gwobrau 2025

Mae’r cyfnod enwebu yn agor Ionawr 20, dyma’ch cyfle i ddiolch a dathlu’r holl waith da sy’n digwydd ar lawr gwlad. Mae’n bosib i unrhyw un enwebu unrhyw un.
Eleni mae 12 categori gwobr sef;

  • Arweinydd
  • Chwarae a Dysgu Tu Allan
  • Cylch Meithrin
  • Cylch Meithrin Bach (12 neu lai ar y gofrestr)
  • Cylch Ti a Fi
  • Cylch i Bawb
  • Cynorthwy-ydd
  • Gwirfoddolwr – Ffrind i’r cylch
  • Meithrinfa Ddydd
  • Pwyllgor
  • Dysgu a Datblygu
  • Siaradwyr Cymraeg Newydd.

Ddim yn siŵr beth i’w gynnwys yn yr enwebiad? edrychwch ar ein canllawiau enwebu isod.

I enwebu person neu gylch, llenwch y ffurflen enwebu isod yn nodi pam eu bodd yn haeddu ennill.  Os ydych chi’n dymuno enwebu person neu gylch ar gyfer mwy nag un categori bydd angen i chi lenwi ffurflen ar wahan i bob categori.Gallwch lwytho uchafswm o 5 llun i gefnogi eich enwebiad. Fe fyddwn yn defnyddio’r lluniau yma ar gyfer Gwobrau Mudiad Meithrin (e.e. ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol ayyb) ac felly mae’n bwysig i chi sicrhau bod y  caniatad hyn mewn lle ar gyfer unrhyw luniau. Hoffem dderbyn lluniau ar ffurf ‘landscape’ os yn bosib.

Dyddiad cau enwebiadau Mawrth 21, 2025.

Enillwyr Seremoni Gwobrau 2024

Enillwyr a 3 Uchaf yn Seremoni Gwobrau 2023

Enillwyr a 3 Uchaf yn Seremoni Gwobrau 2022

Enillwyr a 3 Uchaf Seremoni Gwobrau 2021