Dewch i ddathlu rhai o brif wyliau crefyddol y byd!
Bwriad y pecyn cynhwysfawr hwn yw eich helpu i ddathlu gwyliau crefyddol yn hyderus yn eich lleoliadau yn ystod y flwyddyn. Mae’r pecyn yn cynnig cyflwyniad i saith o brif grefyddau’r byd sef: Iddewiaeth, Cristnogaeth, Bwdhaeth, Islam, Hindwaeth, Sikhaeth a Thystion Jehofa gydag uned newydd ar Ddyneiddiaeth wedi ei ychwanegu yn ddiweddar. Mae pob uned yn cyd-fynd gyda’r cwricwlwm ac yn cynnwys gwybodaeth gefndirol, syniadau am storïau, caneuon a gweithgareddau y gellir eu gwneud gyda’r plant ieuengaf.
Crëwyd y pecyn gan Helen Roberts sydd yn arbenigo yn y maes ac yn enw cyfarwydd fel athrawes, darlithydd ac ymgynghorydd Addysg Grefyddol.