Cyflwyniad i’r Mabinogi
Mae ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ymhlith y straeon hynaf sydd gennym yng Nghymru – mae ysgolheigion yn credu eu bod o leiaf 800 mlynedd oed.
Mae pedair chwedl yn rhan o’r ‘Pedair Cainc’. Mae nhw’n straeon hir a chymhleth a sawl stori o fewn un chwedl. Mae’r awdures Anni Llŷn wedi dewis rhannau bach o’r straeon i’w haddasu i’w gwneud yn addas i’w cyflwyno i blant bach yn ein Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.
Rydym wedi cyflwyno’r straeon Pwyll a Rhiannon, Branwen, Manawydan a Blodeuwedd, ynghyd â’r Cyflwyniad i Oedolion mewn 2 fformat – gallwch ddewis lawrlwytho’r straeon unigol ar ffurf PDF a gweithgareddau i gyd-fynd â phob chwedl, neu gallwch wylio fideo o animeiddiad syml o’r stori gyda throslais.
“Mae’n braf gweld cyfleoedd newydd a dulliau digidol newydd i ledaenu straeon pwysig y Mabinogi ar gyfer cenhedlaeth newydd o Gymry.”
(Dyfyniad gan Eleri Llewelyn Owen, Rheolwr Prosiect y Gymraeg, Consortia Addysg Cymru)
Mae Cyflwyniad i Oedolion (Youtube) ar gael a’r PDF isod, sef ‘Dewin a’r Mabinogi’, ac awgrymwn eich bod yn cyflwyno’r sleidiau yma’n gyntaf i egluro beth yw’r Mabinogi i’r plant.
Mwynhewch y Mabinogi!
PDF ar gael wrth glicio isod.
Fideo Pwyll a Rhiannon: Dewin a’r Mabinogi – Chwedl Pwyll a Rhiannon
PDF ar gael wrth glicio isod.
Fideo Blodeuwedd: Dewin a’r Mabinogi – Chwedl Blodeuwedd – YouTube