Rydyn ni’n angerddol am wneud pob cylch a meithrinfa ddydd yn lefydd lle mae pawb yn perthyn, yn ddiogel ac yn wrth-hiliol. Tybed ydych chi’n gwybod beth yw gwrth-hiliaeth a pham ei bod hi’n bwysig i chi wreiddio arferion gwrth-hiliol yn eich lleoliad?
Lle da i ddechrau deall mwy am hyn yw’r cyrsiau hunan-astudio isod sydd wedi eu datblygu gan DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol) a CWLWM.
Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei hanelu at ymarferwyr. Rydym yn argymell bod unrhyw un sy’n gweithio ym maes Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn dilyn y gyfres, er mwyn deall a dysgu sut gall arferion niweidio plant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ynghyd â’n cefnogi i symud tuag at arfer gwrth-hiliol.
Am fynediad i’r hyfforddiant hwn, cliciwch yma.
Pecyn Cymorth Gwrth-hiliaeth
Pwrpas y pecyn yw eich helpu i wneud awdit o’ch lleoliad. Bydd cyfres o gwestiynau yn eich helpu i ystyried pa bethau sydd angen eu newid er mwyn rhoi gwrth-hiliaeth ar waith yn y lleoliad. Ar ddiwedd y pecyn, mae templed er mwyn i chi greu cynllun gwrth-hiliol ar gyfer eich lleoliad.