Beth am sefydlu Llyfrgell Deganau yn eich lleoliad?

Byddai’r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw yn elwa’n fawr o gael Llyfrgell Deganau yn eich cylch / meithrinfa.

  • Bydd llyfrgell teganau yn darparu adnodd amhrisiadwy i blant, gan gynnig mynediad iddynt at amrywiaeth eang o deganau a all helpu yn eu datblygiad a’u dysgu.
  • Bydd hefyd yn cefnogi rhieni a gofalwyr trwy ddarparu ffordd gost-effeithiol o gael mynediad at deganau a deunyddiau addysgol o ansawdd uchel.
  • Mae’n galluogi eich lleoliad  i godi rhywfaint o arian e.e. drwy godi £1 y tegan.
  • Bydd yn helpu i leihau faint o deganau sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.

Rydym wedi creu pecyn “Llyfrgell Deganau mewn bocs” sy’n cynnwys yr holl ddogfennaeth angenrheidiol. I dderbyn copi o’r pecyn, archebwch yma.