Beth mae bod yn lleoliad cynhwysol yn ei olygu a sut mae rhoi hynny ar waith?
Ni ddylai chwarae cynhwysol fod yn rhywbeth arbennig y byddwn yn ei drefnu ar gyfer rhai plant penodol. Yn hytrach dylai gael ei weld fel dull effeithiol o ddarparu cyfleoedd chwarae ystyrlon a safonol i bob plentyn. Mae bod yn gynhwysol yn golygu mwy na dim ond dangos ymwybyddiaeth o anghenion arbennig, mae hefyd yn galw arnom i feithrin gwerthfawrogiad o gefndiroedd diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol amrywiol y plant.
Mae’r cyflwyniad ar-lein hwn yn addas i bob ymarferydd sy’n ymwneud â lleoliad gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar mewn rhyw ffordd, e.e. staff, pwyllgor, gwirfoddolwyr. Mae’n bosib ei ddilyn fel grŵp staff a phwyllgor ar-lein neu gellir ei wneud yn unigol fel rhan o anwythiad staff neu aelodau pwyllgor newydd.
Mae cyfle i stopio’r cyflwyniad a thrafod fel grŵp, gan gynnwys sut i ymateb mewn gwahanol senarios. Byddwch yn derbyn cyflwyniad PPT byr a fydd yn rhoi arweiniad pellach ynghylch sut i ymateb i’r senarios – cynghorwn chi i edrych ar rhain yn fuan ar ôl gorffen yr hyfforddiant.
Lawrlwythwch gopi o’r senarios yma.
Nod y cyflwyniad:
- Dysgu a datblygu dealltwriaeth ynglŷn â beth yw cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ystyried addasiadau neu newidiadau all eich lleoliad eu gwneud?
- Codi hyder i drafod materion sensitif gyda rhieni a gofalwyr
- Dathlu ac adeiladu ar yr hyn a wneir yn barod.
Cliciwch isod i gychwyn gwylio’r cyflwyniad:
Ar ôl cwblhau’r cyflwyniad, byddwch chi yn:
- Deall gwahanol elfennau a gofynion wrth sicrhau cynhwysiant ac amrywiaeth yn y lleoliad
- Adnabod addasiadau neu newidiadau y gallwch eu gwneud yn eich lleoliad
- Hyderus wrth drafod materion sensitif a holi cwestiynau pwrpasol
- Dathlu amrywiaeth a chydraddoldeb yn hyderus ac yn ddeallus.
Wrth glicio ar y testun isod gellir lawrlwytho rhestr o lyfrau mae’r Mudiad wedi ei greu i blant oed meithrin fydd o gymorth iddyn nhw weld y byd trwy lygaid eraill.
Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+
Mae Mudiad Meithrin yn croesawu teuluoedd o bob cefndir, rhywedd a rhywioldeb. Roedd Mudiad Meithrin eisiau gwrando ar straeon a chlywed profiadau teuluoedd amrywiol. Roedden ni am weithio gyda nhw fel y gallai ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau sy’n aelodau o Mudiad Meithrin, ddysgu o’u profiadau a datblygu lleoliadau cynhwysol sy’n groesawgar i bob teulu.
Felly, cyd-gynhyrchiad yw’r pecyn hwn rhwng Mudiad Meithrin a phobl LHDTC+. Mae wedi ei greu i’w ddefnyddio gan ymarferwyr, drwy gydol y flwyddyn ac nid yn ystod dathliadau a digwyddiadau LHDTC+ yn unig.
Ry’n ni am i bob plentyn sy’n mynychu lleoliadau Mudiad Meithrin ddatblygu empathi a thosturi ac i ddatblygu cyfeillgarwch ystyrlon nawr ac yn y dyfodol. Ry’n ni am iddyn nhw ddysgu bod yn garedig wrth ei gilydd, i fod yn deg ac i barchu a gwerthfawrogi ei gilydd, beth bynnag eu rhyw, rhywedd neu rywioldeb, crefydd neu gred, hil neu anabledd.
I glywed mwy am y pecyn, gwyliwch y cyflwyniad byr isod.
I dderbyn copi o’r pecyn, archebwch yma.