Cyfle i addysgu a datblygu staff i sicrhau eich bod yn cynnig y cyfleoedd gorau i blant bach Cymru
Eisiau cymhwyster i weithio gyda phlant a phobl ifanc neu’n chwilio am ffordd i ddatblygu eich sgiliau? Mae’r cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn gyfle arbennig i chi cymhwyso yn rhad ac am ddim o fewn 18 mis.
Cewch gwrdd â dysgwyr eraill yn y gweithdai misol ar ddechrau’r cwrs a bydd cefnogaeth gan asesydd profiadol a mentor yn eich lleoliad gwaith ar hyd y daith.
Os ydych dros 16 oed ac yn gweithio mewn Cylch Meithrin neu feithrinfa ddydd Gymraeg ac eisiau rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i ddilyn Cwrs Lefel 3 mewn gofal plant yna anfonwch e-bost at: camwrthgam@meithrin.cymru neu ffoniwch 01970 639639
Neu os ydych yn hapus i wneud cais yn syth am le ar y cwrs gallwch fwrw ati i lenwi’r ffurflen gais isod:
Ffurflen gais
