Yn ystod 24-29ain o Fawrth ry’n ni am ddathlu Dewin a Doti gan annog pawb i fynd ati i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol gan gael hwyl a chodi arian.
Rhai o’r prif weithgareddau fydd
- Cynnal Ras Baent Piws un ai yn ddigwyddiad cymunedol i godi arian neu fel gweithgaredd i noddi’r plant o fewn oriau’r cylch.
- Cynnal Parti Piws i ddathlu Dewin a Doti
I’ch helpu gyda’r gwaith trefnu edrychwch ar y llyfryn Pecyn Dewin a Doti i gael cymorth pellach. Isod fe gewch hefyd hyd i lwyth o adnoddau i’ch cynorthwyo yn eich trefniadau e.e. poster, ffurflen noddi, tystysgrif cymryd rhan.
Rydym hefyd yn annog pawb i gofrestru eich digwyddiad gyda ni yma.