Dyma adnodd hyfryd sy’n cyflwyno cyfuniad o hwiangerddi a rhigymau Cymraeg a rhai o ieithoedd eraill sy’n cael eu clymu i ddiwylliannau amrywiol sy’n rhan o’r Gymru fodern.
Mae’r cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cynefin a threftadaeth ac mae’r adnodd hwn yn rhoi pwyslais ar ddathlu amrywiaeth ein treftadaeth amrywiol Gymreig gan felly ymateb yn bwrpasol i ofynion cwricwlwm Cymru.
Cyfunir rhigymau Cymraeg â rhigymau/caneuon yn yr ieithoedd Arabeg, Bangla, Cwrdaidd, Eidaleg, Mandarin, Pwyleg, Romaneg, Somali, Sbaeneg, Pashto (Affganistan) ac Wrdw gyda threfniannau arbennig gan gantorion proffesiynol sef Siân James, Gwyneth Glyn a Bragod.
Mae rhigymau yn rhan o’n treftadaeth a pha ffordd well i ddysgu iaith newydd na thrwy ganu rhigymau!
Gallwch lawrlwytho’r hwiangerddi unigol ynghyd â’r gweithgareddau sy’n cyd-fynd â nhw trwy glicio ar y lluniau isod.
Mwynhewch!