Pŵer Chwarae – Adnodd dysgu digidol o dan arweiniad Kym Scott ar gyfer lleoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar.
Mae’r adnodd yn cynnwys tri modiwl a fydd yn trafod:
- Paratoi’r ffordd at chwarae
- Rhywle i chwarae
- Rôl yr oedolyn wrth gefnogi ac ehangu chwarae’r plant.
Byddwch yn dysgu am:
- Bwysigrwydd chwarae i addysg plant, a’r amgylchiadau sydd yn galluogi chwarae o ansawdd uchel
- Ddarparu awyrgylch dysgu, yn fewnol ac allanol, sy’n ysgogi chwarae
- Rhyngweithio efo plant mewn ffordd sy’n cefnogi ac yn ehangu eu chwarae.
Crëwyd yr hyfforddiant hwn yn arbennig i Mudiad Meithrin gan Kym Scott sydd yn arbenigo ym maes y blynyddoedd cynnar. Cychwynnodd Kym Scott ei gyrfa yn gweithio gyda phlant ifanc fel nani a chymhorthydd cyn-ysgol. Aeth hi ymlaen i weithio ym maes dysgu fel athrawes ac fel uwch arweinydd yn ysgolion Llundain, cyn ymuno â Thîm Cynghorol Blynyddoedd Cynnar Lewisham yn ne Llundain, ac yna fe’i treuliodd hi 15 mlynedd yn cefnogi lleoliadau cyn-ysgol, meithrinfeydd, gofalwyr plant ac ysgolion, o dan amrywiaeth o amgylchiadau.
Bellach, mae hi’n siaradwr cynhadledd, hyfforddwraig ac ymgynghorydd blynyddoedd cynnar llawrydd sefydledig. Mae hi’n gweithio yn y DU a thramor, ac mae ganddi record gydnabyddedig fel un sy’n cefnogi arweinwyr i wella safon eu darpariaethau blynyddoedd cynnar, a gwella allbynnau i’r plant. Mae hi’n treulio cyfnod sylweddol o’i hamser yn gweithio’n uniongyrchol mewn lleoliadau ac ysgolion er mwyn dal gafael ar y realiti a’r heriau o weithio gyda phlant ifanc. Mae’r gwaith yma yn darparu cyfleoedd niferus iddi ddysgu gan blant ifanc a’u hymarferwyr, a hefyd, enghreifftiau bywyd go iawn sydd mor boblogaidd yn ei hyfforddiant.
I dderbyn copi o’r adnodd hwn, archebwch yma.