Adnodd rhyngweithiol yw hwn ar ffurf ‘Book Creator’, sydd wedi’i greu gan gwmni Portal Training. Ynddo, cewch gyngor ymarferol ar:
- Gynnal deialog proffesiynol yn eich lleoliad neu wrth ymwneud â lleoliadau eraill
- Y cysyniad o fod yn fentor neu ‘bydi’ i leoliadau eraill
- Sut i fod yn bositif wrth ystyried ein hiechyd meddwl a meddylgarwch
Yr adnodd perffaith i’w ddefnyddio mewn cyfarfodydd staff ac i fyfyrio ar eich ymarfer.
I gael mynediad at yr adnodd hwn, archebwch yma.
Gwrandewch ar Gwyn Ellis o gwmni Portal Training isod, yn egluro mwy am yr adnodd.