Categorïau
I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma.
- Mae’n rhaid i’r aelod o staff gael cytundeb, â’u bod yn gweithio o dan y cytundeb hwnnw
- Angen bod i ffwrdd o’r gwaith am o leiaf un diwrnod gwaith cyfan
- Dim isafswm cyflog i fod yn gymwys ar gyfer TSS o Ebrill 2026
- Angen rhoi tystiolaeth o’r salwch os ydynt i ffwrdd am dros 7 diwrnod
- Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr: Trosolwg – GOV.UK
- Graddfa Tâl Salwch Statudol (TSS) ar gyfer 2026/27 ydi £123.25 yr wythnos neu 80% o incwm wythnosol cyfartalog – pa bynnag ydi’r isaf.
- Calculate your employee’s statutory sick pay – GOV.UK
- Mae TSS yn daladwy ar gyfer y dyddiau mae’r unigolyn yn gweithio fel arfer – dyddiau cymhwyso
- MaeTSS yn daladwy am hyd at 28 wythnos
- Mae didyniadau treth ac yswiriant gwladol yr un peth â phetai’n gyflog arferol
- Os yw aelod o staff yn cael cyfnodau rheolaidd o salwch, mae siawns y byddent yn cael eu cyfri fel cyfnodau cysylltiedig. I fod yn gysylltiedig, rhaid bod y cyfnodau yn:
– Para mwy nag un diwrnod gwaith llawn
-digwydd 8 wythnos neu’n llai ar wahân
- Ni fyddent yn gymwys i dderbyn tâl salwch statudol os byddai’r cyfnodau parhaol o salwch cysylltiedig yn parhau am fwy na 3 blynedd
- Mae’n rhaid i unigolyn ddarparu nodyn ffitrwydd (neu nodyn salwch) os maent i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch am fwy na 7 diwrnod yn olynnol
- Mae modd cael un o’r rhain gan eich doctor, neu ddoctor yn yr ysbyty
- Bydd rhai cyflogwyr yn derbyn nodyn gan ffisiotherapydd, podiatrydd neu therapydd galwedigaethol hefyd – gelwir y rhain yn ‘Adroddiad Iechyd a Gwaith ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd’ (Allied Health Professional Health and Work Report’)
- Mae’n bosib y bydd moddi’r aelod o staff hawlio ‘Credyd Cynhwysol’ (UC) neu ‘Lwfans Cyflogaeth a Chymorth’ (ESA)
- Mae’n rhaid i’rcyflogwrddarparu ffurflen SSP1 i’r aelod o staff – bydd hyn yn cefnogi’r cais am yr uchod: Ffurflen SSP1
- Rhaid darparu’r ffurflen SSP1unai:-O fewn 7 diwrnod i’r diwrnod cyntaf i ffwrdd yn sâl-O fewn 7 diwrnod i’w TSS ddod i ben, os mae’n dod i ben yn annisgwyl ac mae’r unigolyn yn parhau’n sâl-Ar ddechrau, neu cyn dechrau’r 23ain wythnos o salwch, os mae ei TSS yn debygol o ddod i ben cyn daw y cyfnod o salwch i ben
- Mae gwyliau statudol yn cael ei gronni (cadw) tra bod gweithiwr i ffwrdd o’r gwaith ar gyfnod salwch
- Gweithwyr tymor ysgol yn unig – tâl gwyliau yn parhau
- Gall unigolyn drosglwyddo hawl gwyliau na chaiff ei ddefnyddio oherwydd salwch i’r flwyddyn wyliau nesaf
- Gall gweithiwr ofyn am gymryd ei wyliaugyda thâl am yr amser y mae i ffwrdd o’r gwaith yn sâl. Efallai y byddan yn gwneud hyn os nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer TSS
- Mae gan weithiwr salwch hir dymor hawl i wyliau blynyddol o hyd
- Tal salwch estynedig yw pan fydd y cyflogwr yn cynnig mwy na’r isafswm, sef Tâl Salwch Statudol (TSS). Does dim rhaid gwneud hyn, dim ond TSS sydd yn orfodol
- Er enghraifft; o fewn y cytundeb gall nodi bodhawl i 20 diwrnod o dâl llawn, yna 20 diwrnod o hanner tâl cyn derbyn TSS yn unig
- Mae’r Cylch yn gyfrifol am gadw cofnod o ddyddiadau salwch
- Meini Prawf aros yr un peth o fewn pob swydd
- Cyfrifoldeb y cyflogwr i brosesu’r absenoldeb salwch ar gyfer y swydd yna yn unig
- Yn cyfeirio nôl i’r pwynt ‘Cyfnodau o Salwch Cysylltiedig’, os nad yw’r gweithiwr yn cyrraedd y meini prawf, mae’r cyflogwr yn llenwi ffurflen SSP1 a gall yr aelod o staff fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Mae’r broses yr un peth i bob cyflogwr