Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh (Rhan Amser)
Ar draws CymruYdych chi awydd swydd neu her newydd? Rydym yn dymuno penodi Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh (rhan amser) – cyfle gwych i rywun brwdfrydig ac egniol ymuno â’n tîm!
Ydych chi’n drefnus, yn frwdfrydig ac yn mwynhau gweithio gyda phobl? Rydym yn chwilio am berson sydd â sgiliau rhyngbersonol gwych, a’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac i arwain staff perthnasol gyda hyder.
Mae cyfathrebu’n rhan hanfodol o’r swydd, felly mae’n bwysig eich bod yn gallu cyfathrebu’n rhugl, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd y rôl hon yn berffaith i rywun sydd â sgiliau trefnu cryf, yn gallu rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd, ac yn medru ymateb yn gyflym o fewn terfynau amser. Bydd gwybodaeth gadarn am ddarpariaeth addysg gynnar a dysgu Cymraeg hefyd yn fantais fawr.
Os ydych chi’n edrych am her newydd a rôl sy’n gwneud gwir wahaniaeth, hoffem glywed gennych!
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Carys Gwyn, Pennaeth Tîm Hyfforddiant Iaith
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: carys.gwyn@meithrin.cymru
Cyflog: MM33-MM42 £40,460 - £50,449 (pro-rata) . Gwir gyflog ar sail gweithio 18.75 awr yr wythnos £20,230 - £25,225
Oriau: 18.75 awr yr wythnos
Gweler swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 18/01/2026
Dyddiad Cyfweliad: 28/01/2026