Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r enillwyr a ddaeth i’r brig yn ein Seremoni Gwobrau a gynhaliwyd yn yr Ysgubor, Fferm Bargoed, Aberaeron ddydd Sadwrn diwethaf (17 Hydref).

Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a’r meithrinfeydd dydd ac fe gyflwynwyd y seremoni mewn modd cynnes a chroesawgar iawn gan Elin Fflur, cantores a chyflwynydd cyfarwydd ar y teledu a’r radio.

Meddai Iola Jones, Partneriaethau a Chyfathrebu Mudiad Meithrin:

“Roedd y Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a’r Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaethau yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 700 o enwebiadau eleni, sy’n nifer anhygoel ac yn ffordd wych o ddathlu twf a llwyddiant y Seremoni Gwobrau ers iddi gael ei chynnal gyntaf 10 mlynedd yn ôl i’r diwrnod. Mae’r seremoni arbennig hon yn ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”

Meddai Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd i ddathlu, cydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad am yr holl waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru. Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.”

 

Enillwyr Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin 2026

 Cynorthwyydd

Eryn Roberts, Cylch Meithrin Bro Alun, Wrecsam

 

Ardal Chwarae a Dysgu Tu Allan

Cylch Meithrin Y Gorlan Fach, Tremadog, Gwynedd

 

Cylch i Bawb

Cylch Meithrin Machynlleth, Powys

 

Cylch Meithrin Bach

Cylch Meithrin Deri Bach, Llanbedr Pont Steffan

 

Cylch Ti a Fi

Ti a Fi Llangwyrfon, Ceredigion

 

Dysgu a Datblygu

Cylch Meithrin Machynlleth, Powys

 

Gwirfoddolwr

Ben Davies, Ffrindiau Bach Tegryn, Aberporth

 

Meithrinfa Ddydd

Meithrinfa Twts Tywi, Sir Gâr

 

Arweinydd

Myfanwy Harman, Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful

 

Siaradwyr Cymraeg Newydd

Dani Abrantes, Cylch Meithrin Y Graig, Clwyd

 

Cylch Meithrin Talaith y De-Ddwyrain

Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful

 

Cylch Meithrin Talaith y De-Orllewin

Cylch Meithrin Rhaeadr, Powys

 

Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Orllewin

Cylch Meithrin Y Gorlan Fach, Tremadog, Gwynedd

 

Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Ddwyrain a’r Canolbarth

Cylch Meithrin Machynlleth, Powys

 

Cylch Meithrin Cymru

Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful