Codi arian i’r Cylch gan Gerdded!
Bwriad ymgyrch Cylchoedd yn Cerdded yw cynnig gweithgaredd codi arian i’ch cylch/meithrinfa trwy drefnu teithiau cerdded noddedig syml i’r plant yn eich gofal a’u teuluoedd.
Yn ogystal â chodi arian i’r Cylch Ti a Fi/ Cylch Meithrin / meithrinfa ddydd bydd hyn yn ffordd o hyrwyddo addysg Gymraeg mewn ffordd hwyliog a gwneud i bawb fydd yn cymryd rhan deimlo eu bod yn rhan o ‘un teulu mawr’ Mudiad Meithrin.
Mae’r ymgyrch yn cynnig gweithgaredd codi arian syml, effeithiol a diogel – felly ewch amdani!