Y Person Cofrestredig yw’r unigolyn sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros sicrhau fod y Cylch Meithrin yn cydymffurfio â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
Yn ôl Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC:
‘Ym mhob achos, y person cofrestredig sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau y cydymffurfir â’r rheoliadau, gan roi sylw i’r Safonau perthnasol. Mae hyn yn wir bob amser, er yn ymarferol efallai y caiff y cyfrifoldeb ei ddirprwyo o ddydd i ddydd i reolwr, y person cyfrifol neu aelod dynodedig o staff. Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer cofrestru yw’r rhain ac, er mwyn darparu gofal plant o ansawdd, y disgwyliad cyffredinol yw i bersonau cofrestredig weithio tuag at ragori ar y safonau sylfaenol hyn.’
Mae mwy o wybodaeth ynglyn â chyfrifoldebau Person Cofrestredig yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol isod.