Rydyn ni’n un o’r elusennau pwysicaf yng Nghymru sy'n sicrhau parhad a datblygiad yr Iaith Gymraeg ymysg ein plant ifainc.

Gyda thros 20,000 o blant bach yn mynychu ein darpariaethau yn flynyddol ac yn mwynhau dysgu trwy chwarae yn Gymraeg, mae gwir obaith y bydd Cymru yn datblygu’n wlad ddwyieithog yn y dyfodol yn sgil ein gwaith.

 

Mae ein gwaith yn cael ei weld ym mhob cwr o Gymru ac mae’r galw am ein gwasanaethau ar lawr gwlad yn cynyddu yn flynyddol.

 

Isod mae pecyn nawdd sy’n sôn ychydig am rai o’r prosiectau ble mae modd i chi fod yn rhan ohonynt. Mae’r manylion yn y pecyn yn hyblyg ac mae croeso i chi gysylltu â Nerys Fychan, i drafod.