Cyfres o bodlediadau newydd a chyffrous yw ‘Baby Steps Into Welsh’.

Y cyflwynydd teledu Nia Parry sy’n cyflwyno’r gyfres o bodlediadau sy’n rhoi cyfle i rieni rannu eu profiadau go iawn am daith eu plant trwy addysg Gymraeg hyd yma.

Ym mhob pennod mae Nia Parry yn cwrdd â rhieni sy’n trafod eu siwrneiau personol yn agored iawn ac mae Dr Siân Wyn Siencyn, arloeswr ym maes y blynyddoedd cynnar, yn ymuno â Nia i rannu ei harbenigedd a’i phrofiadau gyda rhieni sy’n wynebu’r penderfyniad am gyfrwng addysg eu plant.

Sean Fletcher & Luned Tonderai

Mae cyflwynydd Good Morning Britain, Sean Fletcher, a’i wraig Luned Tonderai, yn rhannu eu profiadau diddorol o addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain:

Mike & Kelly Bubbins

Pan gafodd y digrifwr Mike Bubbins a’i wraig, Kelly, blant, eu dymuniad oedd eu hanfon i feithrinfa ac ysgol Gymraeg. Roedd gan Mike ei bryderon. Nid oedd yr un ohonynt yn siarad Cymraeg ac roedd yn poeni na fyddent yn gallu helpu gyda’u gwaith ysgol. Yn y rhifyn hwn mae Kelly a Mike yn siarad â Nia Parry am pam mai addysg Gymraeg yw’r penderfyniad gorau wnaethant erioed. Hefyd, mae’r arbenigwr mewn dwyieithrwydd blynyddoedd cynnar, Dr Sian Wyn Siencyn, yn ateb rhai o’r pryderon allweddol sydd gan deuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg ynghylch addysg Gymraeg.

Bethan & Rahil Sayed

Mae cyn Aelod Senedd Cymru, Bethan Sayed a’i gwr Rahil yn rhieni balch i’w babi, Idris. Y cynllun yw i Idris fynd i Cylch Meithrin, cylch chwarae Cymraeg, er mwyn bod yn rhugl mewn Cymraeg, Saesneg a Hindi. Ond mae Rahil, sylfaenydd G?yl Ffilm Caerdydd, yn llai argyhoeddedig ynghylch anfon Idris i addysg cyfrwng Cymraeg rhag ofn efallai na fydd ef yn gallu ei helpu. All Bethan ei berswadio fel arall? Hefyd, mae’r arbenigwr dwyieithrwydd, Dr Sian Wyn Siencyn, yn ôl gyda Nia i siarad am sut mae plant yn gallu addasu i ddysgu sawl iaith.

Aran Jones + Catrin Lliar

Cyhoeddodd Aran Jones a Catrin Lliar ychydig o wersi cyntaf y rhaglen ddysgu, ‘Say Something in Welsh’, bedwar diwrnod cyn genedigaeth eu plentyn cyntaf. Mae’r rhaglen wedi helpu dros 60,000 o bobl i ddysgu Cymraeg ledled y byd. Mae’r ddau yn siarad yn angerddol am sut mae anfon eich plant i addysg cyfrwng Cymraeg fel agor y drws iddynt i fyd newydd. Mae’r arbenigwr dwyieithrwydd, Dr Sian Wyn Siencyn yn ymuno â Nia i egluro sut mae plant yn dysgu ieithoedd yn naturiol ac yn hawdd fel rhan o’u datblygiad.

Eluned Morgan

Mae’r Farwnes Eluned Morgan wedi bod yn Weinidog Llywodraeth Cymru sydd â gofal am y Gymraeg er 2017. Merch ficer a anwyd mewn ardal ddifreintiedig yng Nghaerdydd, a’r unig deulu Cymraeg oedd yn siarad ar yr ystâd ar y pryd. Mae hi’n siarad â Nia am sut y cychwynnodd ei mam y Cylch Meithrin lleol – cylch chwarae Cymraeg, a sut mae hi’n credu bod Cylch Meithrin mor bwysig wrth gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r arbenigwr dwyieithrwydd, Dr Sian Wyn Siencyn yn gwrando ac yn egluro sut mae siarad ieithoedd eraill yn gwella hyder plentyn a’i sgiliau cymdeithasol.

Dr Sian Wyn Siencyn - Rhan 1

Sut mae plant yn dod yn ddwyieithog? Beth yw trochi a pham mae’n effeithiol? Dros y ddwy bennod nesaf, mae ein harbenigwr preswyl, Dr Sian Wyn Siencyn yn ateb eich cwestiynau am addysg Cyfrwng Cymraeg ac am fagu eich plant yn ddwyieithog.

 

Dr Sian Wyn Siencyn - Rhan 2

Ydi o’n broblem os nad wyf yn siarad Cymraeg? A fydd angen i’m plentyn fynd i Cylch Meithrin os ydw i eisiau iddyn nhw fynd i ysgol gynradd Gymraeg? Mae Dr Sian Wyn Siencyn yn ôl i ateb mwy o’ch cwestiynau chi am gamau cyntaf eich plentyn at yr iaith Gymraeg.