Costau Cludo a Gwasanaethau Eraill
Os ydych yn dychwelyd nwyddau am eu bod yn wallus neu bod camgymeriad wedi ei wneud gennym ni, byddwn yn ad-dalu unrhyw gostau cludo y bu’n rhaid i chi dalu er mwyn dychwelyd yr eitem. Mewn unrhyw achos arall, chi fydd yn gyfrifol am gostau unrhyw wasanaeth arall a ddarperir i chi mewn perthynas a’r nwyddau.
Dychwelyd Eitemau
Cyn dychwelyd unrhyw nwyddau, cysylltwch gyda Siop Dewin a Doti naill ai drwy ffonio 01970 639639 neu e-bostio post@siopdewinadoti.cymru. Nodwch yn glir y rhesymau dros eu dychwelyd, paciwch nhw’n ofalus, a dychwelwch y pecyn i’r cyfeiriad isod:
Siop Dewin a Doti, Y Ganolfan Integredig, Mudiad Meithrin, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD
Argymhellwn eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth postio wedi ei gofrestru.
Nwyddau Diffygiol
Gellir dychwelyd unrhyw eitem o fewn 30 diwrnod o’i brynu os yw’r eitem hwnnw yn ddiffygiol. Noder: ni fyddwn yn derbyn nwyddau a ddychwelwyd wedi eu hagor oni bai eu bod yn ddiffygiol. Byddwn yn ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio. Os dychwelir nwyddau gwallus, bydd Mudiad Meithrin yn darparu nwyddau newydd lle bo’n bosib. Mewn sefyllfaoedd ble nad yw’n bosib – byddwn yn ad-dalu pris llawn y nwyddau.
Canslo Eitem
O dan y Rheoliadau Prydeinig Gwerthu o Bell, mae gennych yr hawl i ganslo unrhyw gytundeb prynu o fewn 7 niwrnod i dderbyn y nwyddau. Mae hyn yn berthnasol i’r holl nwyddau. I ddileu’r cytundeb prynu rhowch nodyn gyda’r eitem yn dweud beth yw’r rheswm am ei ddychwelyd. Paciwch yr eitem a’i ddychwelyd o fewn 7 niwrnod gwaith o dyddiad ei dderbyn. Chi fydd yn gyfrifol am gostau’r cludiant. Argymhellwn eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth postio wedi ei gofrestru.