Rydym yn angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg. Credwn fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ofal ac addysg Gymraeg.

Trwy ein gweithgareddau hwyliog rydym yn cynnig taith rwydd i’ch plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg. Cynigiwn nifer o wahanol grwpiau i chi a’ch plentyn o’r crud i’r ysgol gan ddechrau gyda grwpiau Cymraeg i Blant yna y Cylch Ti a Fi, yna ymlaen i’r Cylch Meithrin. Yn dilyn cyfnod yn y Cylch Meithrin, gallwch fod yn hyderus y bydd eich plentyn yn cael y cychwyn gorau i’w daith addysgol drwy’r Gymraeg yn eich ysgol leol gan dyfu’n unigolyn hyderus a llawn bywyd!