Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE neu CIO yn Saesneg)
SCE / CIO yw’r ffurf gyfreithiol ddiweddaraf sydd ar gael i elusennau, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2012.
Mae SCE:
- Yn ffurf gorfforedig o elusen nad yw’n gwmni sy’n cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yn unig ac nid Tŷ’r Cwmnïau
- Yn cael ei greu dim ond pan fo’r Comisiwn Elusennau yn ei gofrestru
- Yn gallu gwneud contractau yn ei rinwedd ei hun
- Yn golygu y bydd gan ymddiriedolwyr, fel arfer, atebolrwydd cyfyngedig neu ddim atebolrwydd o gwbl dros ddyledion y SCE.
Ers rhai blynyddoedd rydym yn arddel y model yma ar gyfer cyfansoddiad a strwythur cyfreithiol pwyllgorau rheoli gwirfoddol y Cylchoedd Meithrin.
Mae hyn yn diogelu pwyllgorau’n bersonol ac yn cyfyngu cyfrifoldeb ariannol sydd ar aelodau’r pwyllgor (i ddim), ond yn golygu bod rhaid cyflwyno cyfrifon blynyddol i’r Comisiwn Elusennau.
Anogwn pob Cylch Meithrin newydd i sefydlu’i hunain fel SCE (yn hytrach nac elusen glasurol). Mae gennym becyn cofrestru a thîm o arbenigwyr a all eich tywys drwy’r broses gofrestru yn ogystal a model o gyfansoddiad model sydd wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn Elusennau. Mae mwy o wybodaeth am y broses yn y Llyfr Bach Piws ar Faterion Elusennol.