Yn ôl ym mis Tachwedd 2022 bu Mudiad Meithrin yn llwyddiannus yn ymgeisio am grant Taith Iaith Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun ‘Taith’ yw i ymestyn ffiniau ein gwaith a darparu cyfleoedd dysgu i’r Mudiad a’i bartneriaid ym Mhatagonia.
Yn dilyn y cyhoeddiad yma mae tri unigolyn wedi cael eu dewis i fynd draw i Batagonia er mwyn cynrychioli Mudiad Meithrin a’r sector ar y daith gyfnewid. Y tair sydd wedi eu dewis yw Heather Thomas o Feithrinfa Cywion Bach, Caerfyrddin Erin Williams o Gylch Meithrin Bro Alun, Wrecsam a Vikki Thomas o Sir Gâr sy’n Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol Cam wrth Gam.
Meddai Vikki Thomas, Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol Cam wrth Gam:
“Rydw i wedi gweithio yn y maes gofal plant ac mewn lleoliadau Cymraeg am y 12 mlynedd diwethaf. Rwy’n angerddol am rannu ymarfer da a gwella’r ansawdd o ofal rydym yn gallu cynnig i blant, i roi’r dechrau a chyfleoedd gorau o fywyd iddynt ac i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r cyfle i fod yn rhan o’r daith i Batagonia yn gyffrous iawn ac rydw i edrych ymlaen at ddysgu gan athrawon ac ymarferwyr yn y lleoliadau draw yno a rhannu profiadau gyda’n gilydd. Hefyd, fe ddaeth teulu mamgu o Batagonia felly rydw i yn gyffrous iawn i allu ymweld â´r Wladfa!”
Bydd y tair yn teithio i Patagonia ar y 31ain o Fedi 2023 a byddant yn treulio pythefnos yn ymweld â Chylchoedd Meithrin ac ysgolion lleol. Pwrpas y daith yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng Patagonia a Chymru a chefnogi ymdrechion y Cylchoedd Meithrin a’r ysgolion Cymraeg wrth drosglwyddo’r Gymraeg i’r plant yno. Bydd Heather, Erin a Vikki yn rhannu eu profiadau nhw gyda’r athrawon yno ac yn dysgu o’u gwaith nhw hefyd.
Meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin:
“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr ymweliad ddiwedd mis Medi. Ry’n ni wedi cael sawl sgwrs efo athrawon ac ymarferwyr draw ym Mhatagonia dros Zoom er mwyn cynllunio a pharatoi a dod i adnabod ein gilydd yn well. Mae rhaglen gynhwysfawr wedi ei pharatoi ar gyfer yr ymweliad – a diolch i Teithiau Patagonia am eu cymorth gyda’r trefniadau ac i bawb draw ym Mhatagonia sydd mor barod i gefnogi ac estyn croeso cynnes i Vikki, Erin a Heather. Byddwn ni’n rhannu lluniau a hanesion yr ymweliad yn gyson ar ein cyfryngau cymdeithasol felly dilynwch ni am yr hanes!”
“Cymal olaf y cynllun fydd croesawu tri neu dair o athrawon o Batagonia i Gymru yn ystod Gwanwyn 2024 – mae’r trefniadau ar y gweill ar gyfer yr ymweliad hwnnw, a’n bwriad wedyn wrth gwrs ydi cynnal y berthynas yma ac adeiladu ar y cysylltiadau er mwyn parhau i rannu arferion da a datblygiad y Gymraeg.”