Cyfres o Sesiynau DARPL i Ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar (1)
Cyfres o Sesiynau DARPL i Ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
Addas i: Holl aelodau Mudiad Meithrin
Mae cyfres dysgu proffesiynol DARPL i ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys tair sesiwn sy’n dadbacio gwrth-hiliaeth ac yn archwilio camau y gellir eu gweithredu mewn lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae, gwarchod plant ac addysg blynyddoedd cynnar.
Mae’r gyfres hon yn archwilio effaith hiliaeth ar les a bywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig eraill a materion a allai effeithio’n andwyol ar blant ifanc a’u teuluoedd.
Mae’n bwysig bod gwrth-hiliaeth yn cael ei yrru’n weithredol yn ein harferion proffesiynol bob dydd, er mwyn sicrhau bod pob lleoliad gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn effeithio ar newid a gwelliant cadarnhaol.
Mae’r sesiynau byw hyn yn cynnig lle i rannu meddyliau, cynnig arweiniad a chael thrafodaeth gyda’r cyflwynwyr a’r cyfoedion sy’n mynychu.
Trwy archebu lle, rydych yn ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan (sef 3 sesiwn) ar y dyddiau canlynol:
07, 21 a 28 Chwefror.
Bydd y 3 sesiwn hyn yn rhedeg o 1-3pm bob dydd.
*Sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Cyfres o Sesiynau DARPL i Ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar (1)
- Dyddiad Cau: 2024-02-07
- Amser: 13:00 - 15:00
- Lleoliad: Ar-lein