Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol

Lleoliad: Ysgol Bodfeurig, Sling, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4RN

Mae Cylch Mynydd Llandegai yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain ein Cylch.
Gallwn gynnig rhywfaint o gymorth gweinyddol os oes angen ac rydym yn barod i drafod rhai agweddau gweinyddol y rôl a sut y gallwn eich cefnogi.

Dylai ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cwblhau lefel Canolradd neu Uwch yn y Gymraeg.

Gellir addasu neu gynyddu oriau gwaith, i gynnwys sesiynau prynhawn yn ogystal â neu yn lle sesiynau bore, pe bai’r arweinydd yn dymuno a bod sefyllfa’r Cylch yn caniatáu. Gallai hyn gael ei drafod yn y cyfweliad neu unwaith yn y swydd.

Y swydd i ddechrau: Ionawr 2025, ond gellir bod yn hyblyg, ac os mai dim ond yn hwyrach y gallwch ddechrau, mae croeso i chi ymgeisio.

Dyddiad cau: 25 Tachwedd

Dyddiad cyfweld:  Wythnos yn dechrau 2 Rhagfyr.

 

Manylion y Swydd

Cyflog: £14.50

Oriau: Oriau agor y Cylch: 8:40-11:40, 5 diwrnod yr wythnos, gydag oleiaf 7.5 o oriau ychwanegol i gwblhau gwaith gweinyddol.

Manylion cymwysterau

Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o'r Cylch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Am rhagor o fanylion cysylltwch â Claire: 07921 197530 / cadeiryddml@gmail.com 

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 25/11/2024