Gwobrau Mudiad Meithrin (1)
Gwobrau Mudiad Meithrin
Hoffech chi enwebu yn un o gategorïau Gwobrau Mudiad Meithrin 2024 . . ond ddim yn siŵr sut i ddechrau arni?
Ymunwch â ni am gyngor ynglŷn â sut i fynd ati a thynnu sylw’r beirniad at eich enwebiad chi!
O dan arweiniad ein Prif Weithredwr, Dr Gwenllian Lansdown Davies fe gewch chi:
- Gyflwyniad i’r wefan, y ffurflenni enwebu a’r dystiolaeth sydd ei hangen
- Syniadau ynglŷn â pa fanylion i’w cynnwys yn y gwahanol gategorïau
- Gyngor ynglŷn â sut i gyflwyno’r wybodaeth i bwrpas
- Enghreifftiau o arferion da
- Top tips cyffredinol ar gyfer enwebu!
Cyfrwng iaith y sesiwn: Cymraeg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Gwobrau Mudiad Meithrin (1)
- Dyddiad Cau: 2024-02-19
- Amser: 18:30 - 19:30
- Lleoliad: Ar-lein